Brechlyn MenB

Grŵp o fyfyrwyr hŷn yn gwenu ar y camera.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael cynnig brechiad am ddim yn erbyn clefyd meningococcal B (MenB) cyn y flwyddyn academaidd newydd, mewn ymateb i gyfres o achosion ledled y DU.

Gall MenB achosi llid yr ymennydd a sepsis, a gall y ddau ohonynt achosi clefyd sy'n peryglu bywyd yn gyflym iawn. Er bod y clefyd yn brin, mae pobl ifanc sy'n mynd i brifysgolion neu leoliadau cyfatebol mewn mwy o berygl.