Amser i roi eich troed orau ymlaen ar gyfer Awst Actif!

Dros y mis nesaf, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn canolbwyntio ar helpu pobl hŷn i symud mwy i hybu eu hiechyd a'u lles cyffredinol.

Mae cadw cleifion yn egnïol yn hanfodol i gynnal iechyd corfforol a meddyliol a lleihau'r perygl o ddal heintiau fel covid, ffliw a bygiau cas eraill fel niwmonia a gafwyd yn yr ysbyty.

Gall anweithgarwch a gorffwys yn y gwely am gyfnod hir yn ddiangen mewn pobl hŷn arwain at ddadgyflyru, sy'n arwain at golli cryfder cyhyrau ynghyd, o bosibl, â dirywiad meddyliol a swyddogaethol.

Gall dadgyflyru effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran, ond mae ei effeithiau'n arbennig o ddinistriol i unigolion hŷn a bregus gan arwain at risg uwch o syrthio pan fyddant yn sefyll i fyny ac yn symud o gwmpas.

Y gwir amdani yw y gall 10 diwrnod o orffwys yn y gwely arwain at golli cyhyrau sy'n cyfateb i 10 mlynedd o heneiddio.

Gall eistedd neu orwedd yn llonydd am ormod o amser hefyd achosi wlserau pwysau, gall gynyddu dryswch a diffyg cyfeiriadedd a gall arwain at beidio â bwyta na yfed digon.

Gall yr holl bethau hyn achosi niwed pellach ac i gleifion mewnol, arosiadau hirach yn yr ysbyty.

Fel rhan o'n hymgyrch Awst Actif rydym yn lansio llyfryn newydd sy'n esbonio sut y gallwch chi helpu i atal dadgyflyru yn ogystal â fideo byr yn dangos rhai ymarferion syml, sy'n addas ar gyfer pob oed.

Bydd sesiynau galw heibio yng nghynteddau ysbytai Castell-nedd Port Talbot (5 Awst) a Threforys (19 Awst) gyda staff wrth law i esbonio dadgyflyru a'r hyn y gallwch ei wneud i helpu i'w frwydro.

Byddwn hefyd yn rhannu tystiolaethau gan rai o'n Llysgenhadon Datgyflyru sy'n egluro beth maen nhw'n ei wneud, a'i bwysigrwydd wrth helpu cleifion i wella'n gyflymach, mewn ymgais i recriwtio mwy o staff i'r rôl bwysig.

Ond nid yr henoed yn unig yr ydym yn eu targedu. Mae'n ffaith ddiamheuol bod ymarfer corff rheolaidd yn hybu iechyd a lles, ni waeth beth yw eich oedran. Felly byddwn yn annog pawb i wneud ymrwymiad i fod mor ddiogel actif â phosibl ym mis Awst hwn - a thu hwnt.

Dywedodd Eleri D'Arcy, Arweinydd Gwella Ansawdd Rhaeadrau Bae Abertawe: “Y mis Awst hwn, rydym yn gwahodd staff, cleifion ac ymwelwyr i symud, dysgu a chymryd rhan fel rhan o Awst Actif – ymgyrch mis o hyd sy’n codi ymwybyddiaeth am risgiau dadgyflyru sy’n gysylltiedig ag ysbytai.

“Rydym yn cynnal dau sesiwn galw heibio arbennig lle gallwch chi brofi’n uniongyrchol sut y gall dadgyflyru effeithio ar bobl yn ystod arhosiad yn yr ysbyty – ac yn bwysicach fyth, beth allwn ni i gyd ei wneud i’w atal.

“Galwch heibio unrhyw bryd yn ystod y dydd!

“Mae’r digwyddiadau rhyngweithiol hyn ar agor i bawb – boed eich bod yn aelod o staff, yn glaf, neu’n ymwelydd.

“Dewch draw i ddarganfod beth yw dadgyflyru a pham ei fod yn bwysig, rhoi cynnig ar arddangosiadau ymarferol sy’n dangos effeithiau anweithgarwch, a dysgu ffyrdd syml o aros yn egnïol ac yn annibynnol yn ystod arhosiad yn yr ysbyty.

“Byddwch hefyd yn gallu cymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau hwyliog wrth gasglu adnoddau a syniadau i helpu i gefnogi symudiad a symudedd cleifion.

“Gadewch i ni gydweithio i gadw pobl yn symud, hyrwyddo adferiad, a gwneud arosiadau ysbyty yn iachach. Dewch i ymuno â’r hwyl – a gadewch wedi’ch ysbrydoli i helpu i fynd i’r afael â dadgyflyru yn ein hysbytai!”

Tanlinellodd Christine Morrell, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, pa mor bwysig yw'r ymgyrch.

Dywedodd: “Mae mor bwysig ein bod ni’n cadw’n egnïol ein hunain ac yn cefnogi ein cleifion i barhau i symud, i hyrwyddo hunanofal ac ysgogiad meddyliol. Mae yna lawer o ffyrdd ymarferol y gallwn ni wneud hyn ac mae'n llysgenhadon dadgyflyru yn barod i gefnogi’r her.

“Mae hefyd yn amser da i sicrhau ein bod ni i gyd yn bod yn actif. Boed yn nod personol, her tîm neu gystadleuaeth hwyliog, mae pob ychydig bach yn helpu. Edrychaf ymlaen at glywed straeon eich Awst Actif.”