Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Rhewmatoleg

Pa wasanaeth rydyn ni'n yn ei gynnig?

Ein nod yw cefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau rhewmatolegol i fyw bywyd cystal â phosibl. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau i helpu pobl i gael mwy o wybodaeth a gwella eu sgiliau. Yn ogystal, rydym yn anelu at fagu hyder cleifion i'w galluogi i reoli eu hiechyd a'u lles. Mae ein gwasanaeth wedi'i deilwra i anghenion a dymuniadau pob claf unigol. Cynhelir y rhan fwyaf o'r apwyntiadau cychwynnol dros y ffôn neu drwy alwad fideo.