Gwasanaeth camddefnyddio sylweddau

Mae ein timau cyffuriau ac alcohol cymunedol (CDATs) yn darparu cefnogaeth a thriniaeth mewn cymunedau, neu o'n clinigau ac ysbytai. Wedi'i leoli yng Nghwmbwrla, Abertawe, mae'r tîm yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol. Mae'r tîm wedi cael hyfforddiant arbenigol a gall helpu gyda mynediad at wasanaethau cyfnewid nodwyddau, y rhaglen dadwenwyno cartref a chefnogaeth gan Ward F, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Maent hefyd yn cynnig ystod o ymyriadau seicolegol a seicogymdeithasol.