Gwasanaethau iechyd meddwl fforensig

Mae uned diogelwch canolig Clinig Caswell yn darparu pob gwasanaeth iechyd meddwl fforensig ar gyfer de, gorllewin a chanolbarth Cymru. Mae gennym wasanaethau arbenigol a gwelyau cleifion mewnol ar gyfer mwy na 60 o ddynion a menywod sydd â phroblem iechyd meddwl sydd wedi troseddu, neu sydd mewn perygl o droseddu, mewn partneriaeth ag asiantaethau cyfiawnder troseddol.